Mae’r ffaith fod Alun Davies mor llafar o blaid ‘Pleidlais y Bobol’ yn peri “risg isel iawn” iddo, ym marn academydd a sylwebydd gwleidyddol amlwg.

Tros y misoedd diwethaf mae’r Aelod Cynulliad wedi bod yn lleisio’i farn yn glir tros gyfryngau cymdeithasol, gan alw am ail refferendwm Brexit.

Ond ei etholaeth ef ym Mlaenau Gwent oedd fwyaf brwd o blaid yr ymadawiad yn refferendwm 2016 , gyda 62% o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd – y ganran uchaf yng Nghymru.

Er bod yr Aelod Cynulliad yn wrthwynebus i Brexit, dyw’r Athro Richard Wyn Jones ddim yn credu bod hynny’n debygol o beri trafferth iddo.

“Mae’r holl dystiolaeth sydd gennym ni yn awgrymu bod aelodau llawr gwlad Llafur, er yn parhau’n gefnogol iawn i Jeremy Corbyn, yn pro-Ewropeaidd iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n dod â ni at sefyllfa Alun Davies ym Mlaenau Gwent. Dw i’n meddwl bod yna elfen o egwyddor. Dw i’n credu bod yna elfen o ‘dyma mae Alun Davies yn ei gredu’…

“A dydw i ddim yn credu bod ganddo unrhyw beth i’w golli efo’r Blaid Lafur ym Mlaenau Gwent.

“Rydan ni’n gwybod bod aelodaeth y Blaid Lafur ym mhobman yn pro-Ewropeaidd iawn.

“Felly dw i ddim yn gweld unrhyw symudiad i drio cael gwared ar Alun Davies yn gweithio ym Mlaenau Gwent, ar sail y stwff Ewropeaidd yma…

“[Y] gwir amdani yw bod ei safbwynt ar Ewrop yn fwy tebyg o’i anwylo fo at aelodaeth y Blaid Lafur trwy’r trwch.”

Dyfodol Alun Davies?

Roedd Alun Davies yn gefnogol o Eluned Morgan yn ystod ras arweinyddol diweddaraf y Blaid Lafur, a tan i Mark Drakeford olynu Carwyn Jones roedd yn Ysgrifennydd Llywodraeth Leol.

Mae Prif Weinidog Cymru yn ffafrio cynnal etholiad cyffredinol yn hytrach na chynnal ail refferendwm,  ac yn rhannu’r un farn â’r blaid yn San Steffan yn hynny o beth.

Gall safiad Alun Davies gael ei ystyried yn heriol i Lywodraeth Cymru. Ond o ystyried y sefyllfa sydd ohoni dyw’r Aelod Cynulliad ddim yn debygol o boeni’n ormodol, yn ôl Richard Wyn Jones.

“Mae wedi bod yn weddol amlwg ers misoedd bod Alun Davies ddim yn disgwyl y bydd o yn cael swydd weinidogol mewn llywodraeth yn cael ei harwain gan Mark Drakeford,” meddai.

“Yn ystod yr ymgyrch arweinyddol roedd Alun yn fwy parod i ddweud pethau y gellid eu hystyried yn feirniadol am Mark nag unrhyw un arall.

“Felly, dw i ddim yn credu bod yna lawer o Gymraeg rhyngddyn nhw!”

Negeseuon gwrth-Frecsit Alun Davies