Mae cynghorydd lleol yn dweud bod angen i’r heddlu bod yn “wyliadwrus” wrth ymdrin â phobol sy’n dioddef o salwch meddwl.

Daw’r sylwadau hyn ar ôl i gwest ddyfarnu bod swyddogion yr heddlu ‘wedi cyfrannu’ at farwolaeth cyn-athro lleol.

Bu farw Meirion James, a oedd yn dioddef o iselder manig, yng ngorsaf yr heddlu yn Hwlffordd ar Ionawr 31, 2015, ar ôl i swyddogion geisio ei atal wrth iddo ruthro o’i gell.

Daeth y rheithgor i’r casgliad bod y gŵr 53 oed wedi marw trwy fygu, a bod y modd yr oedd y swyddogion wedi’i atal – trwy ei ddal ar lawr – wedi cyfrannu at y farwolaeth.

Roedd hefyd yn feirniadol o’r ffaith na chafodd asesiad iechyd meddwl ei gynnal ar Meirion James cyn y digwyddiad.

‘Dysgu gwersi’

Yn ôl y Cynghorydd Cris Tomos, sy’n cynrychioli ardal Crymych ar Gyngor Sir Benfro, bu clywed am farwolaeth Meirion James yn “sioc” i’r gymuned gyfan.

“Yn amlwg, roedd y feddyginiaeth wedi effeithio ar Meirion yn arw ac, yn anffodus, am ba bynnag rheswm, ni chafodd y cymorth digonol yn ystod y cyfnod hwnnw pan oedd e’n dioddef o salwch meddwl,” meddai’r Cynghorydd Cris Tomos wrth golwg360.

“Mae’n drist na chafodd y gefnogaeth ei chynnig o ran cymorth gyda meddyginiaeth yn y cyfnod yn arwain at ei farwolaeth.

“Mae eisiau bod yn wyliadwrus a rhoi’r gofal gorau posib trwy ddod i mewn â doctoriaid ac felly.

“Mae’n rhaid sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu cloi lan am gyfnodau sy’n rhoi mwy o bwysau dolur meddwl arnyn nhw, fel y gwelwyd ar y CCTV [o Meirion James].

“Roedd e’n hynod o drist i’r teulu orfod wylio’r fath ddelweddau.”

Argymhellion

Yn dilyn dyfarniad y cwest, mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed-Powys, Vicki Evans, wedi cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Meirion James.

“Yn syth wedi’r digwyddiad, fe wnaethon ni gyfeirio’r achos at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IOPC),” meddai.

“Rydym wedi cydweithio’n llawn gyda’r ymchwiliad ac mae eu hargymhellion wedi’u gweithredu.”

Yn ôl Cyfarwyddwr yr IOPC yng Nghymru, Catrin Evans, fe ddaeth ymchwiliad annibynnol i’r casgliad nad oedd angen cymryd camau disgyblu yn erbyn gweithredoedd yr heddlu.

Ond ychwanega fod rhai “agweddau o rôl yr heddlu gyda Mr James ddim yn cyd-fynd â’r drefn”.

Roedd hynny, medden nhw, yn cynnwys y ffaith na chafodd “record gywir” ar Meirion James ei gofnodi gan swyddogion, yn ogystal â methiant i gynnal asesiad iechyd meddwl.