Mae claf yn teimlo’n rhwystredig yn sgil y ddiffyg ymgynhori gan prif weithredwr y Bwrdd Iechyd gyda chleifion yr Uned.

Daeth Mark Priestley o Ddeganwy yn agos iawn at golli ei goes a’i fywyd pan gafodd haint yn ei goes, a “lwcus mai lawr yr A55 i Fangor at yr Athro Dean Williams” oedd angen iddo fynd meddai, yn hytrach nag i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Ar ôl i’w nyrs leol ddweud fod ganddo fath penodol o anaf a bod angen triniaeth arbenigol arno, cafodd lawdriniaeth ar frys yn Uned Fasgwlar Ysbyty Gwynedd.

“Os na fyddwn i wedi cyrraedd yno mewn pryd ac wedi mynd i Glan Clwyd, mi fysai’r glot wedi gallu cyrraedd fy nghalon ac arwain ar farwolaeth o fewn ychydig oriau,” meddai Mark Priestley wrth golwg360.

“Mae hi’n uned fasgwlaidd brys sy’n enwog iawn, ac sy’n sefydlog. Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud addewidion blaenorol i gadw’r uned fasgwlar yno.”

Mae Mark Priestley yn pwyntio bys at y bwrdd Iechyd, ac yn benodol at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Evan Moore, a oedd wedi dweud pan gafodd ei apwyntio mai “ei flaenoriaeth oedd gwrando ar gleifion”.

“Ychydig iawn o ymgynghori efo cleifion sydd wedi cael ei wneud,” meddai Mark Priestley. “Mae angen adolygiad brys ar yr effaith ar gleifion sy’n byw ar ymylon y sir.

“Dydi Glan Clwyd ddim yn ganolog, ac mae angen i ni fod yn cefnogi cymunedau lleol wrth ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn.”