Aeth Llinos Chubbs a’i gŵr Dafydd Chubbs i Ysbyty Gwynedd ar ôl darganfod “ulcer bach” ar ei sawdl. Doedd y ddau ddim wedi meddwl llawer am y peth, meddai.
Er hynny, fe waethygodd y briw, cyn effeithio ar gewyn yr achilles yn y diwedd, gan achosi iddo rwygo. O ganlyniad, fe fu ei gŵr yn glaf yn Uned Fasgwlar Ysbyty Gwynedd am bedwar mis dan ofal tîm yr Athro Dean Williams.
“Trwy hyn i gyd, oeddan ni’n dal i drio rhedeg ein busnes tacsis Chubbs ym Mangor, gan drio dod â dau ben llinyn ynghyd efo bob dim arall oedd yn mynd ymlaen,” meddai Llinos Chubb wrth golwg360.
“Ar ôl pedwar mis, wnaethon nhw lwyddo i gael o adra ar antibiotics, efo nyrsus yn dod acw bob diwrnod. Fedra i ddim disgrifio, mewn geiriau, faint o feddwl sydd gen i o’r tîm.
“Oedd yna gysylltiad constant hefo nhw,” meddai wedyn. “Os oes yna broblem unrhyw ddiwrnod, dw i’n gallu ffonio nhw ac maen nhw’n barod i gefnogi yn syth.
“Mae’r support mechanisms yn unbelievable, yn llythrennol, yn unbelievable. Heblaw am Dean Williams fysa gan Dafydd ddim coes – fysa fo wedi gorfod ei cholli hi.
“Pan mae hwn yn mynd, rydan ni mewn trwbwl.”