Pan gafodd William Russell Owen o’r Groeslon ger Caernarfon haint yn ei droed, fe fu’n rhaid iddo gael ei frysio i’r uned fasgwlar yn Ysbyty Gwynedd am driniaeth frys.

Pe na bai ei gartref o fewn hanner awr o amser teithio i Fangor, mae’n ofni meddwl beth allai fod wedi digwydd.

“Nid yn unig wnaeth yr uned safio fy nghoes, ond mi safiodd fy mywyd hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Mi oedd hi’n lwcus fy mod wedi mynd mewn y diwrnod hwnnw, achos oedd y lefel sepsis yn fy ngwaed yn sky high, ac mi faswn i ’mond wedi gallu byw ychydig oriau wedyn.

“Os fyswn i wedi gorfod disgwyl am apwyntiad yn Bodelwyddan, faswn i ddim yma rŵan, ac yn saff ti fyswn i ddim efo nghoes i,” meddai wedyn.

“Wnaeth yr athro Dean Williams ddelio efo fo – a heblaw os nad oedd y cydweithio yma ganddyn nhw – dwn i’m be fyddai wedi gallu digwydd. Mae’r adran yn gweithio mor agos ac ar ben dy gês di rownd y rîl.

“Dydi pobol ddim yn sylweddoli pa mor bell ydi llefydd fel Aberdaron i Fangor, heb sôn am Fodelwyddan. A rhaid cofio mai pobol mewn oed, ac sydd yno am amser hir, sydd yn yr undeb fasgwlar fel arfer hefyd.”