Mae cleifion a meddygon fel ei gilydd yn pryderu am ddyfodol uned fasgwlar “dosbarth cyntaf” Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn wyneb cynigion gan y Bwrdd Iechyd i’w symud 30 milltir i fyny’r A55 i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Ar ôl rhai blynyddoedd o dawelwch, mae’r cynllun yn ei ôl gan Fwrdd Betsi Cadwaladr i ganoli’r uned yn ysbyty Glan Clwyd – ac mae hynny wedi iddyn nhw addo na fyddai newid yn y darpariaeth.

Fe gyhoeddodd y bwrdd ym mis Chwefror y llynedd eu bod yn ymrwymo i gadw’r uned ym Mangor ar ôl i 3,000 arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn ei symud. Ac roedd hynny ar ôl i’r Aelod Seneddol Gwynedd, Hywel Williams, godi’r mater gyda’r Prif Weinidog, Theresa May, yn San Steffan.

Ond, naw mis yn ddiweddarach, fe ddaeth cyhoeddiad arall gan benaethiaid Bwrdd Betsi Cadwaladr y byddai’r uned yn symyd i Ysbyty Glan Clwyd, ble byddai canolfan arbenigol £3.5m yn cael ei sefydlu.

Mae’r cynlluniau hynny yn parhau i sefyll, sydd yn bryder i nifer o gleifion Uned Fasgwlar Ysbyty Gwynedd.

Y llawfeddyg sy’n arwain yr Uned Fasgwlar ym Mangor yw’r Athro Dean Williams.