Ieuan Wyn Jones
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur Cymru o gyflwyno rhaglen lywodraethol sydd yn ddiffygiol ac a ddylai godi cywilydd ar y blaid.

 Mewn cyfweliad â’r Western Mail heddiw, ddyddiau wedi i Lafur Cymru gyhoeddi eu rhaglen lywodraethol, dywedodd Ieuan Wyn Jones y byddai ganddo ef “gywilydd” o’r fath ddogfen.

Mae’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog hefyd yn cyhuddo Llafur Cymru o greu rhaglen sydd yn methu ag ymateb i’r sefyllfa economaidd a gwleidyddol sydd ohoni yng Nghymru erbyn hyn.

“Mae’n nhw’n byw mewn bydysawd arall,” meddai Ieuan Wyn Jones, gan ategu ei feirniadaeth ar lawr Siambr y Senedd ddydd Mawrth fod y ddogfen yn “hynod gyffredinol” ac nad oedd neb “fawr callach o’r hyn y mae’r Llywodraeth am ei gyflawni o ran polisi”.

‘Anodd sgriwtineiddio’

 Mae llawer o alw wedi bod am raglen lywodraethol gan y Blaid Lafur ers iddyn nhw ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain wedi etholiad 5 Mai eleni. Roedd nifer o’r gwrthbleidiau wedi beirniadu’r llywodraeth am beidio cyhoeddi rhaglen lywodraethol yn syth, gan nad oedden nhw’n gallu sgriwtineiddio gwaith y llywodraeth yn ôl addewidion eu rhaglen lywodraethol.

 Ond yn ôl Ieuan Wyn Jones, mae’r rhaglen sydd wedi ei chyflwyno yn siom fawr i’r rhai fu’n gobeithio gweld dogfen o addewidion cadarn.

“Rydyn ni wedi dweud y byddwn ni’n wrthblaid cadarn ac adeiladol. Ond y pryder sydd gen i, gan fod cyn lleied o dargedau yma, a gan fod y ddogfen mor gyffredinol yn ei hagwedd, y byddwn ni’n ei chael hi’n anodd iawn i sgriwtineiddio’r Llywodraeth.”

Aeth arweinydd Plaid Cymru gam ymhellach hefyd, drwy ofyn i’r Prif Weinidog ar lawr y Senedd i ddarparu fersiwn arall o’r rhaglen.

“Mae’n rhaid i ni ofyn i chi ddod ymlaen â fersiwn llawer mwy eglur o ran eich targedau,” meddai.

“Gallwn ni ddim llwyddo drwy roi’r bai am bopeth ar Lundain,” meddai, “mae’n rhaid i ‘sefyll cornel Cymru’ feddwl llawer mwy na hynny, ac maen rhaid i chi gael rhaglen bolisi gredadwy.

“Wnewch chi felly ail ystyried rhai o’r syniadau sydd wedi eu cynnig gennych chi yn y ddogfen hon? Rhoi targedau gwirioneddol i ni, ac wedyn fe allwn ni herio’r rhaglen yn effeithiol ac yn gadarn yn y Siambr.”