Mae 10 o gwmnïau coed wedi mynegi diffyg hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fod yn gyfrifol am goedwigaeth.

Mae’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwig (Confor) yn mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn adleoli ei isadran goedwigaeth fasnachol.

Mewn llythyr gafodd ei ryddhau gan Confor ddoe (Dydd Mawrth, Ionawr 22) maen nhw’n honni bod 12,000 o swyddi  ynghyd a £100miliwn o fuddsoddiad newydd yn y fantol.

Roedd y llythyr hefyd yn lleisio pryder y cwmnïau o ran cau melinau yn y sector sydd wedi buddsoddi £300 miliwn mewn prosesu coed dros y pum mlynedd diwethaf.

Dywedon nhw nad oedd ganddyn nhw  “hyder yng ngallu CNC i ddarparu gwasanaeth masnachol hyfyw, cynaliadwy a gwasanaeth cynaliadwy masnachol.”

Ymhlith y cwmnïau hyn mae Kronospan yn y Waun, Wrecsam, Tilhill Forestry yn Llanymddyfri, a Clifford Jones Timber yn Rhuthun.

Angen “edrych eto” ar CNC

Dywedodd Llŷr Gruffydd AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd a materion gwledig, bod y llythyr yn “ddatblygiad arwyddocaol” yn ymwneud â “rheolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru dros Goedwigaeth yng Nghymru.”

“Dylai’r ffaith fod y sector wedi datgan ei bod wedi colli hyder yng ngallu CNC i ddarparu gwasanaeth masnachol hyfyw a chynaliadwy orfodi’r Llywodraeth i ystyried edrych eto ar CNC,” ychwanegodd.

Mae Llŷr Gruffydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol i ystyried rheolaeth CNC o ystâd coedwig fasnachol Cymru.

CNC yn “cynnal adolygiad trylwyr”

Mewn ymateb i’r llythyrau, dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod yn cymryd y cwynion o “ddifrif” a’u bod yn gwneud popeth posib i geisio datrys y problemau.

“Dyna pam rydym wedi comisiynu arbenigwyr annibynnol i gynnal adolygiad trylwyr, a fydd yn dod i ben yn fuan iawn,” meddai

“Mae ein perthynas â’n partneriaid coedwigaeth yn bwysig iawn i ni a byddwn yn cyfarfod â nhw yn y dyfodol agos i drafod ein cynllun i wella.”