Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chynnig i adeiladu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Daw’r cam hwn ar ôl i’r cynnig gael ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor mewn cyfarfod yr wythnos hon (dydd Mawrth, Ionawr 22).

Mae’r cynnig yn cynnwys datblygu ysgol ardal newydd a fydd yn cyfuno Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ysgol Gynradd Dihewyd, Ysgol Gynradd Felin-fach ac Ysgol Gynradd Cilcennin mewn un adeilad.

Yn ôl y Cyngor, dydy’r cynnig hwn ddim yn cynnwys Ysgol Gynradd Cilcennin os yw penderfyniad ar wahân yn cael ei gymryd i gau’r ysgol ddiwedd mis Awst 2019.

 “Gwrando ar y cymunedau”

Mae disgwyl i’r ymgynghoriad gychwyn ymhen pythefnos ar Chwefror 4.

“Mae ysgolion yn rhan bwysig o wead ein cymunedau,” meddai’r Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r Cabinet tros Wasanaethau Dysgu.

“Mae unrhyw newid i hyn yn golygu bod rhaid i ni wrando ar y cymunedau a fydd yn cael eu heffeithio.

“Dw i’n annog unrhyw berson sydd eisiau dweud eu dweud i wneud hynny. Bydd unrhyw ysgol newydd yn gwasanaethu’r gymuned, felly mae ond yn iawn ein bod yn clywed o’r cymunedau hynny.”