Mae’r heddlu sy’n chwilio am Emiliano Sala, pêl-droediwr Caerdydd, yn dweud eu bod nhw’n ystyried pedwar opsiwn ar ol i’w hawyren ddiflanu nos Lun (21 Ionawr).

Yr opsiwn cyntaf yw fod yr awyren wedi glanio yn rhywle gwahanol i’r disgwyl heb roi gwybod i’r awdurdodau.

Yr ail opsiwn yw fod yr awyren wedi glanio ar ddŵr a bod y chwaraewr a’r peilot, David Ibbotson, wedi’u hachub gan long.

Yn drydydd, gallai’r awyren fod wedi glanio ar ddŵr a’r ddau wedi llwyddo i gael mynediad i rafft oedd ganddyn nhw ar fwrdd yr awyren – dyma’r opsiwn sy’n cael y flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Yr opsiwn olaf yw fod yr awyren wedi chwalu wrth daro’r dŵr, a bod y ddau yn y môr.

Dechreuodd y chwilio unwaith eto fore heddiw (Ionawr 23), ac mae’r heddlu’n dweud bod dwy awyren yn cylchdroi yn yr ardal.

Mae timau’n chwilio’r arfordir oddi ar ynys Alderney, gan gynnwys timau yn yr awyr, ond dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i unrhyw beth a allai fod o gymorth iddyn nhw hyd yn hyn.

‘Dim bocs du’

Mae’r awdurdodau’n dweud ei bod yn annhebygol fod gan yr awyren ‘focs du’ a allai roi mwy o wybodaeth iddyn nhw.

Maen nhw’n orfodol ar awyrennau mawr a rhai sy’n cael eu defnyddio ar gyfer busnesau, ond nid ar gyfer awyrennau fel yr un roedd Emiliano Sala yn teithio ynddi nos Lun (Ionawr 21), a hynny fel arfer oherwydd pwysau’r cyfarpar.

Ond mae’n orfodol, serch hynny, i’r awyren fod â thechnoleg ar gyfer rhesymau chwilio ac achub.

Mae’r Gangen Archwilio Damweiniau Awyr yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn cydweithio ag awdurdodau Ffrainc, yr Ariannin a’r Unol Daleithiau.