Ann Jones yw Cadeirydd y Pwyllgor
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad am ymchwilio i ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn edrych ar:
– Gyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a sut mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn effeithio ar hyn, yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint;
– Beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth Prydain gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil Cyfathrebu;
– Y cyfleoedd i adeiladu modelau busnes y cyfryngau newydd yng Nghymru;
– a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys a lluosogrwydd y ddarpariaeth.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau, ac os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at celg.committee@wales.gov.uk