Mae negeseuon WhatsApp wedi dod i’r amlwg sy’n datgelu ofnau Emiliano Sala cyn i’r awyren oedd yn cludo ymosodwr Caerdydd ddiflannu.

Mewn recordiad, fe ddywedodd ei fod e’n “llawn ofn” ac “ar awyren sydd fel pe bai’n syrthio’n ddarnau”, yn ôl gwefan ole.com.ar.

Diflannodd yr awyren yn fuan wedyn dros Ynysoedd y Sianel, ar ei ffordd o Nantes i Gaerdydd, wrth i’r Archentwr baratoi i ymuno â’i gyd-chwaraewyr newydd am y tro cyntaf.

Ymateb Caerdydd

Wrth i’r chwilio barhau am yr Archentwr a’i beilot, mae Ken Choo, prif weithredwr Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd, wedi ymateb i’r digwyddiad.

Mae’n dweud bod Emiliano Sala yn “berson gwych”, gan ychwanegu ei fod e “mor hapus” o gael symud i Gaerdydd.

“Gallech chi weld o’i wyneb ei fod e mor, mor hapus o gael bod yma ac yn barod i ddechrau,” meddai mewn cyfweliad â’r clwb.

“All geiriau ddim disgrifio’r olwg ar ei wyneb pan wnaeth e gyfarfod â ni, wnaethon ni gerdded â fe o amgylch y cae, roedd e’n hollol barod i roi cynnig arni.

“Rydym yn teimlo’n drist iawn o glywed y newyddion yma oherwydd fe wnaethon ni gyfarfod â pherson gwych.”

Ychwanega fod Emiliano Sala wedi disgrifio’r diwrnod y gwnaeth e ymuno â Chaerdydd fel “un o ddiwrnodau gorau fy mywyd”.

Mae tad Emiliano Sala, Horacio,  wedi dweud wrth sianel newyddion C5N yn yr Ariannin ei fod yn “poeni’n daer” ers clywed bod awyren ei fab ar goll.