Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio prosiect newydd er mwyn “cryfhau’r sector defaid yng Nghymru”.

Nod Cynllun Hyrddod Mynydd y corff marchnata yw annog mwy o ffermwyr mynydd i ddefnyddio hyrddod sydd â chofnodion perfformiad er mwyn cynhyrchu ŵyn sy’n ateb i wahanol ofynion y farchnad gartref a thramor.

Bydd y cynllun yn cael ei redeg am bum mlynedd fel rhan o Raglen Datblygu Cig Coch Hybu Cig Cymru, sy’n anelu at wella effeithlonrwydd a chryfhau diwydiant cig coch Cymru.

Mae saith o ddiadelloedd eisoes wedi cael eu recriwtio ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun, a’r nod yw cael 35 o ddiadelloedd yn rhan ohono dros y pum mlynedd.

Y cynllun

Yn ôl Hybu Cig Cymru, bydd ffermwyr yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys tras DNA, i fonitro a chofnodi data genetig a pherfformiad eu praidd.

Byddan nhw wedyn yn derbyn hyfforddiant ar sut i farchnata eu diadelloedd a sefydlu arwerthiant hyrddod mynydd sydd â chofnodion mynydd.

“Fel arfer, bydd diadelloedd mynydd Cymreig yn cynhyrchu ŵyn ysgafn, ac aeth yn anos i werthu’r ŵyn hyn yn y marchnadoedd traddodiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai Gwawr Parry o Hybu Cig Cymru ac arweinydd y cynllun.

“Bydd defnyddio gwell geneteg mewn diadelloedd mynydd yn golygu y gall ffermwyr dargedu twf a phesgi – er mwy cynhyrchu ŵyn sy’n addas ar gyfer ystod ehangach o farchnadoedd.”