Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru gyfarfod â Theresa May heddiw (dydd Mercher, Ionawr 23) er mwyn trafod y diweddaraf am Brexit.

Daw hyn yn sgil adroddiadau ddoe bod Prif Weinidog Prydain wedi gohirio’r cyfarfod rhyngddi â Phrif Weinidogion yr Alban a Chymru.

Mewn datganiad ar lawr y Cynulliad ddoe, fe alwodd Mark Drakeford ar Theresa May i dynnu ‘dim cytundeb’ oddi ar y bwrdd trafod yn ogystal ag “ymestyn Erthygl 50” fel y camau nesaf wrth sicrhau Brexit.

Fe gyhoeddodd hefyd y byddai’n barod i gefnogi ail refferendwm ar y mater, ond ar yr amod nad oedd dim datrysiad i’r oedi yn San Steffan, meddai.

“Mae difrifoldeb dim cytundeb mor fawr fel os nad yw’r Senedd yn cytuno gyda mwyafrif ar gytundeb sy’n sicrhau ein buddiannau economaidd hirdymor, yna’r unig opsiwn sydd ar ôl yw ail bleidlais gyhoeddus i dorri’r oedi,” meddai wedyn.