Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i archwilio tŷ ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys ar ôl i ddyn danio gwn at yr heddlu ddydd Llun (21 Ionawr).

Bu’n rhaid i’r heddlu gau lonydd a galw arbenigwyr arfog i’r lleoliad ger Llyn Efyrnwy i ddelio gyda’r digwyddiad.

Mae dyn 44 oed o ardal Kidderminster wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio a throseddau yn ymwneud a gynnau.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 10:50 bore dydd Llun yn dilyn pryderon am  les y dyn. Ar ôl i’r heddlu gyrraedd, fe ddechreuodd  y dyn danio gwn at swyddogion. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Cafodd hofrennydd ac arbenigwyr yr heddlu eu galw a chafodd y dyn ei arestio ar ôl y digwyddiad a’i gludo i’r ysbyty.