Athrawon Ysgol Uwchradd Aberteifi yn streicio oherwydd “diwylliant o ofn”

Diweddarwyd  
Disgybl yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau

Mae rhai o athrawon ysgol uwchradd yng Ngheredigion yn bwriadu streicio hyd nes y bydd yna “newid” i ddiwylliant y sefydliad.

Yn ôl undeb NASUWT, mae ei aelodau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi cychwyn ar gyfnod o streicio oherwydd “arferion rheoli niweidiol ac arferion gwaith eraill sy’n creu diwylliant o ofn”.

Roedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 22) yn dynodi diwrnod cyntaf y streic undydd, ac mae disgwyl i bum diwrnod streic arall gael eu cynnal yn ystod yr wythnos nesaf.

Mae NASUWT eisoes wedi cael trafodaethau “adeiladol” gyda Chyngor Sir Ceredigion, ond dydyn nhw dal heb gael eu boddhau y byddai newidiadau yn cael eu cyflwyno, medden nhw.

Yn ôl y Cyngor ei hun, maen nhw wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol i’r mater, ac maen nhw eisoes wedi siarad â thros 25 o aelodau staff presennol a blaenorol.

“Safiad er mwyn sicrhau newid”

“Mae pleidlais y NASUWT ar gyfer gweithredu’n ddiwydiannol yn dangos bod mwyafrif aelodau’r NASUWT yn credu bod yna ddiwylliant o ofn yn yr ysgol ac maen nhw’n barod i wneud safiad er mwyn sicrhau newid,” meddai Neil Butler o NASUWT Cymru.

“Mae NASUWT wedi ymrwymo i amddiffyn ei aelodau, lle bynnag y maen nhw’n dysgu, rhag ymarferion rheoli annerbyniol, a dyna pam rydym ni’n gweithredu heddiw.

“Mae’n ddrwg gennym ein bod ni’n achosi trafferthion i ddisgyblion a rhieni, ond fe fyddai’r gweithredu’n parhau hyd nes ein bod ni wedi cael ein bodloni bod yr awdurdod lleol a’r llywodraethwyr yn ymrwymo i newid y diwylliant yn yr ysgol.”

Ymchwiliad annibynnol

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae ymchwiliad annibynnol i’r honiadau ynghylch arferion rheoli’r ysgol yn canolbwyntio ar:

  • Gwynion yn erbyn arweinyddiaeth yr ysgol, gan gynnwys ystyried a oes diwylliant o fygwth, bwlio ac aflonyddu yn yr ysgol;
  • Ystyried a oes grŵp o athrawon a chyn-aelodau staff wedi cyd-drefnu cynllun i fygwth, bwlio, neu aflonyddu ar aelodau o uwch-dîm arweiniol yr ysgol;.
  • Ganfod a yw rhai o’r camau yr ymchwiliwyd iddyn nhw wedi mynd yn groes i’r Côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y rheiny sydd wedi cofrestru a Chyngor y Gweithlu Addysg.

“Mae’r cyngor yn cymryd unrhyw honiadau o ddifrif a dymuna’r cyngor gyd-weithio â phawb sy’n ymwneud â’r mater yma i sicrhau canlyniadau hirdymor buddiol i bawb,” meddai llefarydd.

“Disgwylir i’r holl ymholiadau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Ionawr ac yn dilyn hynny, bydd y Cyngor Sir yn gweithredu yn ôl argymhellion yr adroddiad.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer