Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi dweud eu bod yn “bryderus iawn” ynghylch diogelwch y chwaraewr o’r Ariannin, Emiliano Sala, yn sgil adroddiadau ei fod ar fwrdd yr awyren a aeth ar goll wrth deithio o Lydaw i Gymru neithiwr.

Mae timau achub wedi bod yn chwilio am yr awyren fechan ers neithiwr (nos Lun, 21 Ionawr), wedi iddi ddiflannu oddi ar y radar am 8.30yh wrth deithio dros y Sianel. Bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio am 2yb oherwydd gwyntoedd cryfion, gan ail-ddechrau am 8 y bore ma, meddai’r heddlu yn Guernsey.

Mae’n debyg bod cais wedi cael ei wneud i lanio wrth i’r awyren hedfan heibio Guernsey ond bod swyddogion rheoli traffig awyr yn Jersey wedi colli cysylltiad gyda’r awyren yn fuan wedyn.

Roedd yr awyren yn teithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd, ac mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cael arddeall bod dau deithiwr ar ei bwrdd, yn cynnwys Emiliano Sala, yr ymosodwr 28 oed oedd newydd arwyddo i’r clwb ddydd Sadwrn.

Mae’n debyg bod y clwb wedi talu tua £15 miliwn am y pêl-droediwr a oedd yn chwarae i Glwb Pêl-droed Nantes. Roedd disgwyl iddo ddechrau ymarfer efo’r clwb heddiw.

“Rydym yn bryderus iawn ynghylch y newyddion diweddaraf bod awyren fechan wedi colli cysylltiad dros y Sianel neithiwr,” meddai cadeirydd y clwb, Mehmet Dalman.

“Rydym yn disgwyl cadarnhad cyn dweud unrhyw beth pellach. Rydym yn pryderu’n fawr am ddiogelwch Emiliano Sala.”