Mae timau achub yn chwilio am awyren fechan sydd wedi mynd ar goll wrth deithio o Lydaw i Gymru.

Yn ôl yr awdurdodau , fe ddiflannodd yr awyren, sy’n cynnwys dau o bobol, oddi ar y radar am 8.30yh neithiwr (nos Lun, Ionawr 22), a hynny mewn ardal sydd i’r gogledd o ynys Alderney.

Roedd yn teithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd.

Mae cychod a hofrenyddion yn rhan o’r ymdrech chwilio, a bu’n rhaid i achubwyr frwydro yn erbyn tywydd garw yn ystod y nos wrth amgylchynu’r môr.