Mae adroddiad wedi darganfod fod Sir Ceredigion ymhlith yr ardaloedd sydd a’r cyflymderau rhyngrwyd gwaethaf ledled gwledydd Prydain.

Wrth edrych ar gyflymder fesul ardal, mae cylchgrawn Which? yn dweud bod Ceredigion gyda’r gwaethaf.

Mae gan Geredigion cyflymder o 7.5 mpbs (megabits yr eiliad), o gymharu â’r cyfartaledd yw 16.51 mpbs ar gyfer gwledydd Prydain.

Beirniadu cynllun Superfast Cymru

Yn ôl Russell George, Gweinidog yr wrthblaid dros Economi a Seilwaith, mae’r ymchwil yn dangos bod “Ceredigion yn parhau i fod yn un o’r ardaloedd awdurdod lleol gwaethaf ar gyfer cysylltedd rhyngrwyd yn y Deyrnas Unedig”.

“Mae hyn yn siomedig, yn enwedig ar ôl i Lywodraeth Cymru geisio ymyrryd trwy ei rhaglen Super Fast Cymru i ddarparu rhyngrwyd cyflymder uchel i 95% o ardaloedd yng Nghymru.”

Mae dros £425m o arian wedi cael ei wario ar gam cyntaf cynllun Superfast Cymru gan y Llywodraeth, ac mae’r ail gam wedi ei chyhoeddi yn barod.