Mae papur The Sunday Times wedi dileu pôl piniwn a oedd yn holi a ddylai’r iaith Gymraeg barhau i gael ei dysgu mewn ysgolion.

Cafodd papur ei feirniadu’n hallt ar blatfform Twitter ddoe (dydd Sul, Ionawr 20) ar ôl cyhoeddi’r pôl piniwn.

Roedd y pôl piniwn yn dilyn stori’r papur ynglŷn â’r actores Eve Myles, oedd wedi dysgu Cymraeg ar gyfer ei rôl yn Un Bore Mercher ar S4C a gafodd ei ffilmio hefyd yn Saesneg i BBC Cymru o dan y teitl Keeping Faith.

Yn wyneb yr ymateb beirniadol gan nifer o ddefnyddwyr Twitter, ac yn eu plith nifer o enwau amlwg  – mae The Sunday Times.

“A ddylai Cymru barhau i gefnogi dysgu Cymraeg mewn ysgolion?” oedd cwestiwn y papur.

Roedd hynny er i Eve Myles ddweud yn ei chyfweliad ei bod hi’n “bwysig i amddiffyn ein treftadaeth ac ein hiaith, a dylai Cymru gefnogi hynny. Dylem fod yn annog ein gilydd i gadw’r iaith yn fyw.”

Gofynnodd Aelod Cynulluaf Plaid Cymru’r Rhondda, Leanne Wood: “Pa fath uffern o gwestiwn yw hwn? Beth ydych chi’n ceisio ei wneud, Sunday Times? Oes unrhyw un yn prynu’r papur hwn yng Nghymru?”

Aeth Huw Edwards o’r BBC ati i gynnig fersiwn arall o’r cwestiwn, gan ofyn: “A ddylai Lloegr barhau i gefnogi dysgu Saesneg mewn ysgolion?”