Wrth longyfarch dau o aelodau ei blaid ei hun am gael eu hethol yn gynghorwyr sir yng Ngwynedd ddoe, mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi rhoi’r gyllell i fewn i blaid Llais Gwynedd.

Mewn dau isetholiad ym Mlaenau Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth ddoe, cafodd Mandy Williams-Davies a Gareth Thomas eu hethol yn gynghorwyr – gan roi mwyafrif i Blaid Cymru ar Gyngor Gwynedd am y tro cyntaf ers i Lais Gwynedd gipio 13 sedd nôl yn 2008.

 “Yn dilyn ymgyrch negyddol a chamarweiniol ein gwrthwynebwyr, dewisodd yr etholwyr ddilyn arweiniad cadarn Arweinydd Gwynedd y Cynghorydd Dyfed Edwards, ac ymddiried ymhellach yng ngwaith rhagorol Mandy a Gareth fel cynghorwyr tref a chymuned drwy eu hethol i Gyngor Gwynedd,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Dyma neges glir o Ddwyfor Meirionnydd i Gymru gyfan ar gyfer etholiad cyffredinol Mai 2012 yn ein cynghorau sir. Mae cyfraniad cynghorwyr Plaid mewn cynifer o lywodraethau lleol drwy Gymru yn dangos yn glir bod pobol drwy Gymru gyfan yn gallu ymddired ynom i rannu grym yn ddoeth er mwyn amddiffyn cymunedau yn y dyddiau economaidd dyrys sy o’n blaen. Nid amser i chwarae gemau gwrthbleidiol mewn gwleidyddiaeth negyddol yw’r rhain. Rhaid cael arweiniad cadarn ymhob lefel o lywodraeth, a byddaf innau yn rhoi blaenoriaeth dros y misoedd nesaf i gefnogi ein ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol 2012 drwy siroedd Cymru.”

Ymateb Llais Gwynedd i ddilyn