Cafodd corff ei ddarganfod ym Mae Caerdydd brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 19).

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau gan y cyhoedd fod unigolyn yn y dŵr.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Dywed tystion fod y gwasanaethau brys yn ardal canolfan Techniquest.