Elaine Edwards
Bydd tua 600 o ysgolion Cymru ar gau ddydd Mercher nesaf wrth i aelodau Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) streicio dros fwriad Llywodraeth Prydain i newid amodau eu cyflogaeth.
Yn ôl cynlluniau Clymblaid San Steffan mi fyddai gofyn i athrawon gyfrannu mwy at eu pensiwn, gweithio’n hirach a derbyn pensiwn ar sail cyflog cyfartalog eu gyrfa yn hytrach na phensiwn yn seiliedig ar gyflog diwedd gyrfa.
Mi fyddai cyfraniad pensiwn yn codi o 6.4% i 9.8%, ac yn golygu gostyngiad cyflog gydag athro newydd gymhwyso yn derbyn £752 yn llai yn ei baced pae blynyddol.
Mae Llywodraeth Prydain yn mynnu nad oes modd cynnal y drefn bensiynau bresennol yn y sector gyhoeddus wrth i fwy o bobol fyw yn hirach.
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC mae trefn bensiynau athrawon yn talu amdano’i hun ac yn gwbwl gynaladwy, a dyw newid amodau ond yn ffordd o godi £2.8 biliwn ychwanegol i goffrau’r Trysorlys.
“Ein dadl ni yw taw treth ychwanegol yw hyn ar athrawon a darlithwyr a bod hynny yn hollol anheg,” meddai Elaine Edwards.
“Dyle chi ddim bod yn trethu’r sector gyhoeddus oherwydd dyled y wlad…mae hwnna’n hollol hollol annerbyniol.”
Dysgu nes 68 oed
Dan y cynlluniau newydd bydd gofyn i athrawon weithio nes eu bod yn 68 oed i dderbyn pensiwn llawn.
“Beth mae aelodau yn dweud wrthon ni, a hefyd ffrindie sy’n dal i ddysgu…yw: ‘Galla i byth â gwneud y swydd hyn nes bo fi’n 68’, ac maen nhw’n teimlo bydde dim digon gyda nhw i gynnig yn yr oedran hynny, bydden nhw wedi rhoi gyment ag y bydden nhw’n gallu,” meddai Elaine Edwards.
“Oherwydd mae’n nhw’n ‘nabod gofynion y swydd, yn gwybod yr egni sydd angen, yr amynedd sydd angen yn ogystal â’r gwaith meddyliol sy’n mynd fewn i’r paratoi a’r marcio ag ati.
“Mae [codi’r oedran ymddeol], i nifer o bobol, yn un o’r ffactore mwya’ [dros streicio].”
Y stori yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.