Mae car wedi moelyd ar ffordd A4232 ger Caerdydd.

Mae un lôn ynghau wrth i’r gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.

Mae un person wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl i gar daro bariau ynghanol y ffordd, ond does neb wedi cael anafiadau difrifol.

Mae oedi hir ger cyffordd 33 yr M4.