Y criwiau achub yng Ngloddfa Gleision
 Roedd y diwydiant glo tanddaearol yn atgyfodi nes i’r “drasiedi” ym mhwll y Gleision daro, meddai arweinydd Undeb y Glowyr yn ne Cymru wrth gylchgrawn Golwg wrth wythnos hon.

Mae Wayne Thomas o Undeb y Glowyr, sydd ei hun yn galaru dau o’i ffrindiau fu farw ym mhwll y Gleision yn ddiweddar, yn mynnu bod safonau diogelwch pyllau glo Cymru yn well nag unman arall yn y byd.

“Mae rhywbeth anarferol iawn wedi digwydd [yng Nghilybebyll], mae rhywbeth o’i le ond mi fydden ni yn ffeindio mas beth ar ôl i’r heddlu a’r archwilwyr wneud eu gwaith. Fe ddown ni i waelod hyn – roedd y glowyr fu farw yn brofiadol dros ben ac yn arbenigwyr wrth eu gwaith,” meddai.

Cyn y drasiedi roedd hanes y diwydiant glo tanddaearol yng Nghymru “yn stori newyddion da” meddai Wayne Thomas, a aeth ei hun i weithio i’r pwll yn fachgen 16 oed – mae o bellach dros ei 50 oed “a dyna yw cyfartaledd oed glowyr Cymru heddiw – os na fydden ni’n adfywio’r diwydiant yn fuan (a chael gwaed ifanc i mewn) mi fydd yr arbenigedd yn marw allan a bydd rhaid cael gweithwyr i mewn o Wlad Pwyl ac ati.”

Y stori yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg