Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan Highways England yn dangos bod mwy o gerbydau’n defnyddio pontydd Hafren ers i’r tollau gael eu dileu.

Does dim ffi i groesi’r ddwy bont ers Rhagfyr 17, ond mae’r corff yn dweud nad oes sicrwydd ar hyn o bryd mai dileu’r tollau sy’n gyfrifol am y cynnydd.

Teithiodd 194,631 o gerbydau i mewn i Gymru dros ail bont Hafren, Pont Tywysog Cymru, rhwng Dydd Nadolig a Nos Calan – cynnydd o bron i 30,000 (18%) o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Teithiodd 59,854 o gerbydau dros y bont wreiddiol yn ystod yr un cyfnod – cynnydd o fwy na 15,000 (34%) o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Mae ffigurau’n darogan y bydd 24 miliwn o gerbydau’n defnyddio’r pontydd erbyn 2022, o’i gymharu â 18 miliwn pe bai’r tollau’n dal yn eu lle.