Victor Matfield yw blaenwr anferth De Affrica
Mae De Affrica wedi maeddu Samoa o 13-5, sy’n golygu bod Cymru fwy neu lai yn saff o’u lle yn rownd yr wyth olaf.

Gan eu bod nhw wedi colli o wyth pwynt mae Samoa wedi methu sicrhau’r pwynt bonws, sy’n golygu y byddai’n rhaid i Gymru golli’n drwm yn erbyn Ffiji er mwyn methu mynd drwodd i rownd yr wyth olaf.

Mewn gêm gystadleuol rhwng De Affrica cafwyd un cais yr un, gyda Brian Haban yn croesi i’r Boks a Stowers yn tirio i Samoa.

Ciciau cywir Steyn oedd yr unig wahaniaeth rhwng y ddau dîm.