Mae darlun gan Banksy wnaeth ymddangos ar garej ym Mhort Talbot wedi cael ei werthu am swm chwe ffigwr.

Arbenigwr ar waith Banksy, John Brandler, sydd wedi prynu’r darn o’r enw ‘Seasons Greetings’ gan berchennog y garej, Ian Lewis.

Ers iddo ymddangos yno ychydig cyn y Nadolig, mae tua 20,000 o bobol wedi ymweld â’r safle.

Yn ôl y prynwr John Brandler, bydd y darn yn aros ym Mhort Talbot am ddwy neu dair blynedd ond efallai caiff ei symud i ganol y dref gan gadw at ddymuniad Ian Lewis – sydd wedi gwrthod cynigion uwch o arian er mwyn cadw’r darn o fewn cyrraedd y gymuned leol.

Wrth siarad cyn y gwerthu, dywedodd John Brandler: “Fe ddylai ddod â llawer o dwristiaeth i Bort Talbot, nid dyma gyrchfan gwyliau sydd yn rhif un ar restrau  y rhan fwyaf o bobl.”

Ymddangosodd darn Banksy yn Taibach, yn agos at waith dur Tata.

Ar un ochr i’r wal, mae llun o blentyn mewn het gyda sled, ac mae’n ymddangos fel ei fod yn mwynhau cawod o eira ac yn ceisio dal y darnau ar ei dafod. Ond ar ochr arall y wal, daw’n glir mai cawod o ludw yw’r ‘eira’ sy’n syrthio ar y plentyn.