Mae angen sefydlu “rhwydwaith” o bwyntiau gwefru ledled y wlad ar gyfer ceir trydan, yn ôl pennaeth caffi cymunedol yng ngogledd Ceredigion.

Daeth Caffi Cletwr, yn Nhre’r Ddôl, yn gartref i ‘wefrwr cyflym’ cyntaf Ceredigion ym mis Medi y llynedd.

Mae modd gwefru car trydan yno mewn llai nag awr, ac yn y cyfamser mae gyrwyr yn medru manteisio ar wasanaethau eraill y caffi.

Misoedd wedi iddo gael ei lansio, does dim un ‘gwefrwr cyflym’ arall wedi’i osod yng ngorllewin Cymru ac mae cadeirydd Cletwr, Nigel Callaghan, yn pryderu am hynny.

“Y broblem yw taw ni yw’r unig rapid charger o hyd,” meddai wrth golwg360. “Mae pobol yn medru gwefru mewn rhyw hanner awr, hyd at dri chwarter awr.. Mae pwyntiau gwefru] eraill yn cymryd oriau.

“Mae’n rhaid i ni gael rhagor. Mae’n rhaid i ni gael rhwydwaith ohonyn nhw … I bob pwrpas dim ond ar yr A55 a’r M4 gewch chi rapid chargers eraill yng Nghymru.

“Does dim byd am dros hanner can milltir – efallai chwedeg milltir. Petasech eisiau teithio o ardal Aberystwyth yn syth at y Bont [Hafren], byddai hynny’n amhosib mewn car trydan. Does dim byd rhwng Tre’r Ddôl a’r M4.”

Tap trydan

Er mai ar dir Cletwr y mae’r pwynt gwefru, cwmni Charge Master sy’n gyfrifol amdano, ac mae taliadau cwsmeriaid yn mynd i’r cwmni hwnnw.

Mi dalodd Cletwr am gostau adeiladau’r pwynt, a nhw sydd yn talu am y trydan, ond mae Charge Master yn eu talu yn ôl. Mae ar gael i’w ddefnyddio 24 awr y dydd.

Mae Nigel Callaghan yn credu ei fod yn llwyddiant hyd yma, a’n dweud ei fod wedi cael ei ddefnyddio 118 gwaith ers cael ei lansio.

“Tap trydan” yw’r term mae e’n ei ddefnyddio am y pwynt gwefru, ac mae’n mynnu mai “gwasanaeth” yw’r gwefrwr – nid ffynhonnell elw.