Lynette White
Mae dyn sy’n rhoi tystiolaeth yn erbyn wyth o gyn blismyn yn achos Lynette White wedi gwadu ei fod wedi talu i eraill am wneud yr un peth.

Wrth roi tystiolaeth mewn achos o lygredd yn erbyn yr wyth, mae hefyd wedi gwadu fod ganddo unrhyw gysylltiad gyda llofruddiaeth y ferch 20 oed.

Roedd John Actie, 50 oed, wedi cael tua £300,000 o iawndal ar ôl cael ei garcharu’n annheg tros farwolaeth y ferch ifanc yng Nghaerdydd yn 1988.

Yn yr achos yn Llys y Goron Abertawe, fe ddywedodd ei fod yn gwybod o’r dechrau fod y swyddogion gyda Heddlu De Cymru’n ceisio’i feio ef a phedwar dyn arall ar gam.

Yr honiad

Roedd cyfreithiwr sy’n amddiffyn un o’r cyn blismyn yn honni fod John Actie wedi defnyddio peth o’r arian hwnnw i dalu i bobol dystio yn erbyn yr wyth a fod yr iawndal ei hun yn gysylltiedig â thystio yn yr achos.

Gwrthod hynny wnaeth John Actie, gan ddweud fod yr arian yno i helpu ei deulu ac nad oedd yn ddigon beth bynnag i wneud iawn am yr hyn a ddioddefodd.

Roedd ef ac un dyn arall wedi eu gadw yn y ddalfa am ddwy flynedd cyn i gyhuddiadau yn eu herbyn gael eu gollwng.

Fe gafodd tri dyn eraill eu dedfrydu ar gam i oes o garchar am lofruddio Lynette White cyn i chweched dyn, Jeffrey Gafoor, gyfadde’ flynyddoedd yn ddiweddarach mai ef oedd yn gyfrifol.

Y cyhuddiadau

Mae tri cyn uwch swyddog – Richard Powell, Thomas Page a Graham Mouncher – yn cael eu cyhuddo o gynllwynio gyda phum cyn blismon arall – Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood a John Seaford – i wyro cwrs cyfiawnder.

Mae Mouncher a dau berson arall – Violet Perriam ac Ian Massey – yn cael eu cyhuddo o ddau achos o ddweud celwydd dan lw.