Mae’n “drueni” bod adeilad yng ngogledd Ceredigion bellach ar y farchnad, meddai dyn o Dal-y-bont a fu ynghlwm ag ymdrechion i gadw’r Emporiwm ym meddiant y gymuned leol.

Ar hyn o bryd mae’r adeilad dan berchnogaeth Wales & West Housing, sef cwmni sy’n darparu tai fforddiadwy ledled y wlad, ond bellach mae’r adeilad ar werth am £199,950.

Mae’r stori wedi cael sylw ar dudalen flaen rhifyn diweddara’r papur bro, Papur Pawb, sy’n tynnu sylw bod fflatiau oedd wedi’u datblygu ar gyfer y gymuned bellach yn cael eu gwerthu i ddwylo preifat.

‘Trueni’

Roedd Gwyn Jenkins yn aelod o Gymdeithas Tai Pumlumon, a thua 30 mlynedd yn ôl fe wnaeth y gymdeithas dai honno brynu’r Emporiwm er mwyn creu fflatiau fforddiadwy i bobol leol.

“Mae’n dibynnu ar bwy sy’n symud yna, a beth sy’n digwydd,” meddai Gwyn Jenkins wrth golwg360 am effaith y gwerthu ar bobol yr ardal. “Mae’n drueni ei fod wedi mynd allan o ddwylo cyhoeddus. Ond mae’n anodd dweud [beth ddaw].”

Mae pobol eraill wedi cyfleu eu pryder, gydag un yn dweud yn anhysbys fod “perchnogaeth yr adeilad “wedi pellhau” dros y blynyddoedd.

Hanes yr Emporiwm

Cafodd yr Emporiwm ei godi gan siopwr lleol o’r enw James Jones ganol yr 1890au.

Ar ôl i Gymdeithas Tai Pumlumon brynu’r adeilad cafodd ei droi yn bum fflat, a bu’n gartref am gyfnod i bobol leol, a phobol â chysylltiadau cryf â’r pentref.

Daeth y gymdeithas dai wedyn yn rhan o Cantref, ac yn 2016, yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru, daeth Cantref yn rhan o Wales & West.

Ar adeilad yr Emporiwm mae murlun adnabyddus gwasg y Lolfa, ond dyw’r rhan â’r murlun ddim ar werth.

Delfryd

“Delfryd” yw’r syniad o sefydlu cymdeithas tai unwaith eto, meddai Gwyn Jenkins o Papur Pawb, gan ategu bod cyfreithiau bellach yn rhwystr.

“Mater i bobol ifanc ydy ceisio mynd ati i greu’r ymdeimlad a oedd,” meddai wrth golwg360. “Yn y cyfnod yna, yn sicr, roeddem yn credu allan ni fod yn gymdeithas oedd yn darparu tai i bobol leol.

“Dyna oedd y nod. Fe wnaethon ni brynu rhywfaint o eiddo. Ond dros y blynyddoedd mae’r cymdeithasau mawr wedi cymryd drosodd y rhai llai.

“Ac mae eu blaenoriaethau nhw yn wahanol. Ac maen nhw’n cael eu cyfyngu, wrth gwrs, gan gyfreithiau ynglŷn â sut maen nhw’n medru gweithredu.”