Mae atal y rhaglen i ddatblygu Wylfa Newydd yn “gyfle sydd wedi’i golli”, yn ôl corff sy’n cynrychioli busnesau a diwydiannau.

Fe gyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon heddiw (Ionawr 17) y bydd ei raglen i ddatblygu gorsafoedd niwclear yng ngwledydd Prydain – sy’n cynnwys yr un ym Môn – yn cael ei hatal yn sgil methiant y cwmni i ddod i gytundeb ynghylch cyllid.

Mewn ymateb i hyn, mae’r CBI, sy’n cynrychioli mwy na 190,000 o fusnesau yn y Deyrnas Unedig, yn dweud bod y cyhoeddiad yn “ergyd sylweddol” i ddyfodol cynlluniau gwledydd Prydain ar gyfer eu darpariaeth ynni.

Roedd disgwyl i’r buddsoddiad ar gyfer datblygu Wylfa Newydd fod yn £20bn.

Ynni niwclear yn “hanfodol”

“Dyma’r eildro i gyllid ar gyfer gorsaf niwclear newydd gael ei ohirio, ac mae’n creu pryder ynglŷn â gallu gwledydd Prydain i gymryd lle ei fflyd niwclear presennol,” meddai llefarydd ar ran y CBI.

“Mae ynni niwclear yn rhan hanfodol o’n cymysgedd o ynni, ac mae angen prosiectau newydd er mwyn sicrhau dyfodol ein darpariaeth o ynni cymysg a charbon isel.

“Fe fydd hefyd yn gyfle sydd wedi’i golli i’r gymuned leol ym Môn, gyda cholli hyd at 10,000 o swyddi newydd yn ystod y gwaith datblygu.

‘Angen arweiniad’

“Mae angen i’r Llywodraeth ddangos ei hymrwymiad i gyrraedd ein targedau newid yr hinsawdd trwy gefnogi darpariaeth newydd o ynni carbon isel,” meddai’r CBI ymhellach.

“Gall colli’r prosiectau niwclear newydd ein gadael yn fwy dibynnol yn y tymor hir ar danwyddau ffosil, a all peryglu ein targedau newid yr hinsawdd.

“Mae angen i’r llywodraeth adeiladu ar ei chefnogaeth i ynni niwclear newydd trwy gynnig y sicrwydd sydd ei angen ar brosiectau unigol, yn ogystal â mesurau sy’n darparu cymysgedd o dechnolegau carbon isel ac adnewyddol.”