Mae Delyth Jewell wedi’i phenodi yn Aelod Cynulliad tros ranbarth Dwyrain De Cymru.

Mae hi’n olynu Steffan Lewis, yr aelod Plaid Cymru a fu farw ddydd Gwener diwethaf (Ionawr 11) yn 34 oed.

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones, wedi cael ei hysbysu am y penodiad gan Swyddog Canlyniadau Rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Mae Delyth Jewell wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni i Blaid Cymru ers blynyddoedd, ac yn 2014 fe gafodd ei henwi’n Ymchwilydd y Flwyddyn tra’r oedd hi’n gweithio i’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd.