Cyn-Aelod Cynulliad Canol Caerdydd yw Canghellor newydd prifysgol y brifddinas.

Mae Jenny Randerson yn olynu Martin Evans, y gwyddonydd a gamodd o’r neilltu yn 2017.

Bu Jenny Randerson yn ddirprwy ganghellor ers 2017, chwe blynedd ar ôl iddi dderbyn gradd er anrhydedd am ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Fe fydd hi’n gyfrifol am gadeirio Llys y brifysgol ac o arwain seremonïau graddio’r sefydliad.

‘Braint aruthrol’

“Mae Prifysgol Caerdydd yn agos iawn at fy nghalon,” meddai. “Fe fu gen i gysylltiadau agos â’r brifysgol ers nifer o flynyddoedd.

“Mae hi yn yr etholaeth y gwnes i ei chynrychioli tra’n Aelod Cynulliad, ac roedd nifer o’i staff a’i myfyrwyr yn etholwyr.

“Byddaf yn ymgymryd â’r rôl hon ar adeg heriol dros ben i holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, ac rwy’n ymroi i wneud popeth o fewn fy ngallu i gynrychioli’r brifysgol, ei myfyrwyr a’i staff hyd eithaf fy ngallu.”

Gyrfa wleidyddol

Mae gyrfa wleidyddol y Farwnes Randerson yn ymestyn dros gyfnod o bedwar degawd.

Dechreuodd yn gynghorydd yng Nghaerdydd rhwng 1983 a 2000, lle’r oedd hi’n arweinydd yr wrthblaid rhwng 1995 a 1999.

Roedd hi’n Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd rhwng 1999 a 2011, ac yn Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg rhwng 2000 a 2003, yn ogystal â bod yn Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 2001 a 2002.

Cafodd ei derbyn i Dŷ’r Arglwyddi yn 2011 ar ôl gadael y Cynulliad, a bu’n Is-Ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru rhwng 2012 a 2015, pan oedd hi hefyd yn llefarydd ar faterion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon. Mae hi bellach yn llefarydd Trafnidiaeth.

Fe fydd yn cael ei derbyn yn ffurfiol i’w swydd newydd ar Ionawr 30.