Mae Prif Weinidog Cymru ymhlith y cyntaf i ymateb i fethiant Theresa May i ennill cefnogaeth Aelodau Seneddol i’w chytundeb Brexit.

Yn ôl Mark Drakeford, mae’n “bryd iddi wrando” ac ystyried buddiannau’r Deyrnas Unedig i gyd.

Fe gollodd y Llywodraeth o fwyafrif o 230 pleidlais – y tro cyntaf i unrhyw lywodraeth golli o fwy na 100 pleidlais ar lawr Tŷ’r Cyffredin ers 1924.

“Doedd cytundeb y Prif Weinidog erioed yn ddigon i amddiffyn ein heconomi a’n swyddi,” meddai Mark Drakeford.

“Rydyn ni wedi gwrthod y cytundeb yma o’r dechrau ac wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd yn ôl i Frwsel a gofyn am gytundeb sy’n gweithio’n dda i’r Deyrnas Unedig i gyd.”