Mae mwy o bobol yn cael eu carcharu yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop, yn ôl ymchwil newydd.

Ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod eisiau trafodaeth lawn ar y ffigurau, meddai arweinydd yr ymchwilwyr.

Er fod lefelau troseddu’n is yng Nghymru nag yn Lloegr, mae cyfran uwch o bobol yn cael eu carcharu yma, meddai adroddiad gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dyma’r ystadegau:

  • Mae 154 o garcharorion am bob 100,000 o bobol yng Nghymru.
  • Yn Lloegr, y ffigwr yw 141 am bob 100,000.
  • Roedd lefelau carcharu wedi cwympo yn Lloegr rhwng 2010 a 2017 ond wedi codi ychydig yng Nghymru.
  • Mae mwy o ddedfrydau carchar byr yng Nghymru nag yn Lloegr – cyfartaledd yn 2017 o 13.4 mis yn erbyn 17.2 mis.
  • Mae pobol wyn yn cael dedfrydau byrrach yng Nghymru na phobol o gefndiroedd eraill.

Fe ddaeth y ffigurau trwy gais rhyddid gwybodaeth i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a dyma’r tro cynta’ i allu cymharu ffigurau clir rhwng y ddwy wlad.

‘Angen dadl drylwyr’

“Mae darlun manwl yn graddol ddod i’r amlwg yn dangos sut y mae’r system gyfiawnder yn wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr,” meddai arweinydd yr ymchwil, Dr Robert Jones.

“Mae angen dadl drylwyr ynglŷn â pham bod dedfrydu fel hyn a phatrymau carcharu fel hyn yn digwydd yng Nghymru.”