Roedd yna funud o dawelwch a theyrngedau o bob ochr i’r siambr wrth i Aelodau Cynulliad gofio am yr Aelod Cynulliad ifanc, Steffan Lewis, a fu farw ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Adam Price, roedd ei gydaelod yn gawr ac fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai’r tristwch yn aros yn hir gydag aelodau’r Cynulliad.

Roedd Steffan Lewis a oedd yn 34 oed ac yn aelod ieuenga’r Cynulliad wedi bod yn brwydro yn erbyn canser y coluddyn ers misoedd.

‘Cawr’

Yn ôl Adam Price, roedd ei addewid yn amlwg ers pan oedd yn ifanc iawn, ac yntau wedi siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru pan oedd yn ddim ond 14 oed.

“Cenedl fach yw hon ond bob rhyw hyn a hyn rydyn’n ni’n magu cewri,” meddai. “Doedd Steffan byth yn gwneud unrhyw beth ar ei hanner.”

Roedd yr aelod tros Ddwyrain De Cymru yn “fab perffaith” i Gymru ac roedd ganddo’r gallu i fod yn “dad y genedl” hefyd, meddai Adam Price.

Yn ôl Mark Drakeford, roedd yn ddyn “meddylgar, sensitif ac ymroddgar”.