Fe fydd aelodau seneddol yn pleidleisio heno ar gynnig i barchu barn y Cynulliad yn gwrthod y syniad o Brexit.
Dyma fydd un o gyfres o bleidleisiau wrth i Dŷ’r Cyffredin drafod cynnig y Llywodraeth am gytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ogystal â’r prif gynnig o blaid y cytundeb, fe fydd pleidlais ar bedwar gwelliant, gan gynnwys un gan blaid yr Alban, yr SNP, yn galw ar Lywodraeth Prydain i “barchu ewyllys” Senedd yr Alban a’r Cynulliad yng Nghymru i wrthod Brexit.
Fe fydd y pleidleisio’n dechrau tua saith heno.
‘Refferndwm os na fydd etholiad’ – awgrym Llafur
Mae Llafur unwaith eto wedi galw am etholiad cyffredinol ond wedi awgrymu’r posibilrwydd o gael refferendwm arall os na fydd hynny’n digwydd.
Yn ôl eu llefarydd ar yr economi, John McDonnell, mae angen torri’r ddadl a chael cefnogaeth i gynllun gwahanol.
Mae AS Llafur o Gymru hefyd wedi galw am refferendwm ac wedi gwrthod y syniad bod modd ail-drafod cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Os na allwn ni ddatrys y mater hwn yn Nhŷ’r Cyffredin, rhaid i ni fynd ag e’n ôl at y bobol,” meddai Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth.
“Dw i ddim yn credu bod mwyafrif [yn y Tŷ] o blaid dewis arall. Does dim amser am drafodaethau ffantasi gyda’r Undeb Ewropeaidd.”