Mae gwefan newydd Gymraeg ar gyfer merched ifanc ymhlith y cylchgronau sy’n derbyn grantiau gan Gyngor Llyfrau Cymru am y cyfnod rhwng 2019 a 2023.

MAe cyfanswm o 17 o deitlau wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth, a dau ohonyn nhw’n newydd sbon.

Mae Lysh yn gylchgrawn digidol ar gyfer merched yn eu harddegau cynnar a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Rily o Gaerffili a’i olygu gan Llinos Dafydd; a Cara, cylchgrawn ar gyfer menywod o bob oed, a fydd yn cael ei olygu gan Meinir ac Efa Edwards, mam a merch o Landre, Ceredigion a Chaerdydd.

Mae dau gylchgrawn digidol arall, Mam Cymru a Parallel.cymru, yn derbyn nawdd unwaith ac am byth o £5,000 yr un i gryfhau yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig yn barod. Mae cyfnod y grantiau yn dechrau ar Ebrill 1.

Pwy sy’n cael beth – Cymraeg 

Barddas – £20,000

Barn – £80,000

CIP  – £20,000

Cristion – £2,000

Fferm a Thyddyn – £1,500

Golwg – £77,000

Lingo Newydd – £18,000

Llafar Gwlad – £7,000

Mellten – £14,000

O’r Pedwar Gwynt – £34,000

WCW a’i Ffrindiau – £30,000

Y Cymro – £24,000

Y Selar – £11,000

Y Traethodydd – £4,000

Y Wawr – £8,000

Cara – £10,000

Lysh – £20,000

 

Nation.cymru yn cael £20,000 o arian Saesneg 

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi y bydd saith cylchgrawn Saesneg yn cael cynnig cymorth grant yn ystod y cyfnod 2019-2023.

Mae pum cylchgrawn sefydledig yn cael arian, tra bod arian wedi’i ddyfarnu i fenter newydd ar-lein Nation.Cymru ynghyd ag i’r cylchgrawn gothig newydd o Gymru, The Ghastling, .

“Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymrwymo i ddarparu ystod o ddeunydd i bobol Cymru mewn fformatau print a digidol er mwyn eu gwneud mor hygyrch â phosibl,” meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru.

“Maen nhw’n cynnig safbwyntiau unigryw, ysgrifennu o safon, a thrafodaethau bywiog am fywyd yng Nghymru. Gyda chyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant dan fygythiad, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ddiogelu’r diwydiant hanfodol hwn.”

Pwy sy’n cael beth – arian Saesneg 

Nation.Cymru – £20,000

Poetry Wales – £20,000

The Welsh Agenda a Click on Wales – £17,500

New Welsh Review – £45,000

Planet – £45,000

Wales Arts Review – £27,500

The Ghastling – un swm untro o £10,000