Dr Richard Wyn Jones
Mae academydd wedi ymateb i feirniadaeth gan grŵp pwyso’r wythnos hon oedd wedi dweud bod dechreuad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn “anweledig”.

Mae ymgyrchwyr iaith hefyd yn trafod sefydlu grŵp i “oruchwylio gwaith” y sefydliad. Fe fydd y cynnig  yn mynd gerbron cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Wrecsam ddydd Sadwrn nesaf (8 Hydref).

Mae Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn fwy gweledol mewn campysau ar draws y wlad.

Dywedodd, “Byddai wedi bod yn llawer haws cychwyn hefo ‘big bang’  a gwneud agoriad y Coleg newydd yn amlwg – byddai hynny wedi agor drysau yn llawer rhwyddach i gael y newid sylweddol dros bum mlynedd rydan ni gyd eisiau,” meddai wrth Golwg360.

Ond fe ddywedodd yr academydd Dr Richard Wyn Jones wrth Golwg360 nad oedd am fynd i “ddadl” gyda Ffred Ffransis ac nad yw’n realistig i ddisgwyl “big bang” gyda model y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae syniad Ffred o addysg uwch mor echreiddig nad yw werth mynd i’r afael ag o,” meddai Dr Richard Wyn Jones.

“Fe ddewiswyd model o weithredu oedd yn fodel esblygol yn hytrach na chwyldroadol. Y model a ddewiswyd oedd i geisio defnyddio’r is-adeiladwaith oedd yn bodoli’n barod a cheisio impio darpariaeth Gymraeg ar hynny,” meddai.

“Dwyt ti ddim yn mynd i gael rhyw fath o fang mawr le mae  pob dim yn newid. ‘Dw i wedi bod yn feirniadol tu hwnt o brifysgolion Cymru am bob math o resymau dros y blynyddoedd. Dyw’r sefydliadau hyn ddim am newid eu holl ddiwylliant mewnol dros nos, maen nhw wedi bod yma ers canrif a mwy,” meddai.

“Problem arall i’w ystyried yw cyn lleied o ddarpariaeth Gymraeg sydd wedi bod yn y  gorffennol.”

Darlithwyr cymwys

“Fedri di ddweud – rydan ni’n mynd i greu swydd darlithydd. Ond, mae’n rhaid i ti gael rhywun cymwys i geisio am y swydd. A’r gwir ydi, mewn sefyllfa lle mae’r ffasiwn ddiffyg wedi bod ers cenedlaethau – unai ti am neidio mewn ac apwyntio pob math o bobl sy’n anghymwys, neu ti am geisio mynd ati i ffeindio myfyrwyr isradd addawol – a chael nhw drwy’r broses o wneud doethuriaeth.

“Does ’na ddim rhyw haid o ddarpar ddarlithwyr yn hongian o gwmpas strydoedd Llanddewibrefi yn disgwyl. Mae llawer o resymau pam nad wyt ti’n mynd i gael bang mawr.”

Dywedodd nad oedd dadleuon o’r fath (am ‘Big Bang’) yn seiliedig ar “unrhyw fath o ddealltwriaeth o sut mae prifysgolion yng Nghymru nac yn unlle arall yn gweithio.”

“Dyw’r math yna o safbwynt ddim yn help i gael y drafodaeth sydd ei angen ynglŷn â sut mae gwella pethau,” meddai.

“Ma’ ’na bethau i drafod – fel i ba raddau fydd y coleg yn cyfeirio adnoddau i mewn i lefydd penodol. Neu ydi o jest yn rhannu pethau ar draws holl brifysgolion Cymru? Mae ’na lot fawr iawn o gwestiynau eithaf dyrys i’w trafod dros gyfnod o amser.”

‘Newid byd’

Mae newid byd aruthrol wedi bod o’i gymharu â’r sefyllfa yr oedd yn wynebu yn y 90au wrth geisio datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aber, meddai. “Y Coleg Cymraeg sydd wedi gwneud y gwahaniaeth hwnnw,” meddai Dr Richard Wyn Jones.

Yn y cyfamser, mae Ffred Ffransis wedi galw am “newid cyfan gwbl ym meddylfryd” pawb sy’n ymwneud â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Ffred Ffransis yn dadlau os yw’r “ymestyniad o’r drefn bresennol” yn parhau gyda’r hen Brifysgolion “â’r llaw uchaf” dros y Coleg, heb fod y Coleg Cymraeg yn rhoi “stamp ei hawdurdod” arnynt fod “perygl amlwg y gallai’r hen sefydliadau addysg uwch ecsbloetio’r coleg fel ffynhonnell incwm ychwanegol yn unig”.

“Dw i’n meddwl bod o’n bwysig bod meddylfryd pawb sy’n ymwneud â’r coleg yn newid yn gyfan gwbl,” meddai Ffred Ffransis . O dan yr hen drefn, dywedodd bod y pwyslais ar wahanol gynlluniau oedd yn trio perswadio mwy a mwy o fyfyrwyr i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg – ac ar geisio ehangu nifer y darlithwyr.

‘Cyfnod newydd’

“Drwy greu impetus newydd, mae cyfnod gyfan gwbl newydd yn cychwyn lle mae derbyn eich addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn norm y dylai pawb anelu tuag ati.”

Mae’n disgrifio’r diffyg ymwybyddiaeth fel “siom” gan alw ar y Coleg i fod yn fwy gweledol ei phresenoldeb.  “Tasa chi’n cael arolwg barn wythnos yma a gofyn i bobl Cymru pa sefydliad cenedlaethol gychwynnodd yn iawn wythnos diwethaf, dydw i ddim yn meddwl byddai dim 1% o bobl Cymru yn gwybod,” meddai.

“O ran yr ymdeimlad, mae’n amlwg pwy sydd â’r llaw uchaf ar hyn o bryd –  a hynny o reidrwydd oherwydd eu bod nhw’n hen sefydliadau sydd wedi hen sefydlu ers canrif – sef y sefydlaidau presennol. Mae’n rhaid i’r Coleg Cymraeg roi stamp eu hawdurdod ar y sefydliadau presennol….

“Y perygl amlwg yw bod yr hen sefydliadau sefydliedig addysg uwch yn ecsbloetio’r coleg fel ffynhonnell incwm ychwanegol yn unig ac yn gweld popeth o’u persbectif nhw eu hunain. Mae canfyddiad o’r Coleg a’r sefydliad cenedlaethol grymus newydd mor bwysig,” meddai Ffred Ffransis.