Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 8.30yh neithiwr (nos Lun, Ionawr 14) yn dilyn ffrwydrad mewn bloc o fflatiau yn Castell Nedd.

Bu’n rhaid i breswylwyr fflatiau’r Waun Las, yn ardal Waunceirch, adael eu cartrefi oherwydd y difrod i’r adeilad.

Cafodd yr holl breswylwyr eu cyfrif, cyn cael eu rhoi mewn tai dros dro dros nos cyn i’r adeilad gael ei ddatgan yn saff i ddychwelyd iddo.

Mae dynes wedi cael ei chludo i Ysbyty Treforys ar ôl cael ei llosgi’n ddifrifol.

Mae archwiliad ar y gweill gan Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.