Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o geisio cipio a’r bwriad o gyflawni trosedd rywiol ar ôl ymosodiad ar wraig ym Mangor nos Fawrth.

Fe ddigwyddodd ar gornel Belmont Drive a Ffordd Ffriddoedd tua 10pm, 27 Medi ar ôl i ddyn geisio gorfodi dynes i mewn i’w gar.

Fe fydd Eifion Royle, 45 oed, yn mynd gerbron Llys Ynadon Caergybi heddiw.

Ni chafodd y ddynes ei hanafu.

Mae’r Heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a welodd gar tywyll Vauxhall Vectra yn ardal Bangor.

Dywedodd yr heddlu  bod yr ymateb gan y cyhoedd hyd yn hyn wedi bod y galonogol. Ond mae nhw’n annog unrhywun sydd a gwybodaeth ynglŷn â hyn i gysylltu â nhw, yn enwedig merched, sydd efallai wedi cael profiad tebyg.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 0845 6071001.