Steve Jones Llun: Newsnf
Mae’r Cymro Steve Jones wedi cerdded allan ar ganol cyfweliad gyda Piers Morgan ynglyn a ffrae am ei fywyd carwriaethol.

Yn ôl adroddiadau, roedd Piers Morgan wedi codi gwrychyn cyflwynydd The X Factor yn yr Unol Daleithiau, ar ol awgrymu ei fod yn “ferchetwr”. Mae Steve Jones wedi cael ei gysylltu â Pamela Anderson, Halle Berry a Hayden Panettiere yn y gorffennol.

Fe gadarnhaodd yn ddiweddarach ar wefan Twitter ei fod wedi gadael ar ganol y rhaglen: “Does gen i ddim cywilydd i gyfaddef fy mod i wedi cerdded oddi ar raglen Piers Morgan heno. Roedd ei ffordd o holi yn hynod o sarhaus. Fe gewch chi  benderfynu drosoch eich hunain ddydd Gwener.”

Mae’r newyddion wedi gwneud i rhai amau mai digwyddiad i dynnu sylw yw’r cyfan, ac mae Piers Morgan ei hun wedi cyfrannu at y dryswch ar ôl iddo drydar fod Steve Jones “wedi cael ei daflu oddi ar y set ddoe oherwydd ymddygiad anweddus.”

Daeth y digwyddiad wedi i Steve Jones gael ei weld yn mynd ar ddêt gyda’r model Americanaidd Keeley Hazell.

Mae Steve Jones wedi cael croeso cymysg iawn ers dechrau ar The X Factor UDA, gyda rhai beirniaid yn disgrifio’i ran yn y rhaglen fel un “dibwrpas” ac un arall yn dweud ei fod e “mor bell yn y cefndir, fyddai hi’n llawn cystal iddo fod ar sianel arall.”