Mae Theresa May wedi cael ei chyhuddo o “ragrith llwyr” ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi pleidleisio yn erbyn datganoli pwerau i Gymru yn dilyn y refferendwm yn 1997.

Mewn araith heddiw (dydd Llun, Ionawr 14), roedd y Prif Weinidog wedi rhybuddio y gallai methiant i barchu canlyniad y refferendwm Brexit greu “niwed trychinebus” i ffydd pobol yn y broses ddemocrataidd.

Mewn darnau o’i haraith a gafodd eu cyhoeddi o flaen llaw gan Stryd Downing, roedd hi’n cael ei dyfynnu’n dweud bod canlyniad y refferendwm datganoli i Gymru yn 1997 wedi cael ei “dderbyn gan y ddwy ochr”, er gwaethaf y mwyafrif tenau o 0.3%.

Ond mae cofnodion seneddol yn dangos bod Theresa May ymhlith y 144 o Aelodau Seneddol a bleidleisiodd am gynnig o newid a fyddai wedi atal Deddf Llywodraeth Cymru – y ddeddf a gafodd ei chreu yn dilyn canlyniad y refferendwm.

Yn 2005, fe wnaeth hi hefyd sefyll ar ran y Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol o dan faniffesto a oedd yn cynnwys yr addewid y byddai ail refferendwm yn cael ei gynnal ar ddatganoli.

Roedd Theresa May wedi addasu ei haraith erbyn prynhawn ma pan fu’n annerch gweithwyr mewn ffatri yn Stoke-on-Trent.

Sylwadau Theresa May

“Pan bleidleisiodd pobol Cymru gyda mwyafrif o 0.3% – a dim ond ychydig dros 50% oedd wedi pleidleisio – i gymeradwyo sefydlu Cynulliad Cymru, cafodd y canlyniad ei dderbyn gan y ddwy ochr a dydy cyfreithlondeb y sefydliad hwnnw ddim wedi cael ei gwestiynu o ddifri,” meddai Theresa May.

“Dw i’n gofyn i Aelodau Seneddol ystyried goblygiadau eu gweithredoedd ar ffydd pobol gwledydd Prydain yn ein democratiaeth.

“Dychmygwch pe bai Tŷ’r Cyffredin gwrthwynebus i ddatganoli wedi dweud wrth bobol yr Alban a Chymru fod gan y Senedd y grym i’w hanwybyddu a’u gorfodi i bleidleisio eto, er gwaethaf eu pleidlais o blaid deddfwrfa ddatganoledig.”

“Enghraifft ryfedd”

Ymhlith y rheiny sydd wedi beirniadu’r Prif Weinidog am ei sylwadau mae’r Aelod Seneddol tros Ganol Caerdydd, Jo Stevens, sy’n nodi bod y datblygiad hwn yn dangos “hyd yn oed mwy o ragrith llwyr gan y Prif Weinidog…”

Yn ôl Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, sy’n gefnogwr brwd i’r syniad o ail refferendwm ar Brexit, mae’r cyfeiriad at refferendwm 1997 yn “enghraifft ryfedd” i’w defnyddio gan Theresa May.

“Mae hon yn enghraifft ryfedd iawn i’r Prif Weinidog ei defnyddio, gyda hi ei hun wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu canlyniad y refferendwm, a’r Torïaid wedi parhau i’w wrthwynebu am flynyddoedd wedyn,” meddai.

“Ond yn wahanol i Brexit, mae cefnogaeth gyhoeddus i Gynulliad Cymru wedi tyfu ar ôl y refferendwm. Mae Brexit wedi mynd yn sydyn i’r cyfeiriad arall – a dyna pam mae angen i bobol roi eu barn derfynol arno.”