Fe fydd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn cyhoeddi £7.1m ychwanegol heddiw (dydd Llun, Ionawr 14) i wella iechyd meddwl plant a phobol ifanc.

Mae’r cyhoeddiad, a fydd yn cael ei wneud yn ystod cynhadledd yng Nghaerdydd, yn deillio o argymhellion adroddiad Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Cynulliad, Cadernid Meddwl, y llynedd.

Mae’r buddsoddiad o £7.1m yn ychwanegol at y £1.4m y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn rhaglen iechyd meddwl i ysgolion, er mwyn cryfhau’r cymorth y mae CAMHS yn ei ddarparu mewn ysgolion mewn pedair ardal.

‘Buddsoddiad sylweddol’

“Mae gwella iechyd meddwl i bawb yn un o’m prif flaenoriaethau fel y Gweinidog Iechyd, a hefyd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Yng Nghymru, rydyn ni wedi cymryd camu i sefydlu gwasanaethau i helpu plant a phobl ifanc i ymdopi â phwysau bywyd bob dydd.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gallu darparu cyllid ychwanegol i gynyddu nifer y staff arbenigol a datblygu gwasanaethau newydd.

“Mae’r cyllid ychwanegol dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn golygu y gallwn ni wneud mwy i amddiffyn, gwella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a phobl ifanc, drwy barhau i ddatblygu’r gwasanaethau hyn.”

Mae’r buddsoddiad o £7.1m yn ychwanegol at y £1.4m y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn rhaglen iechyd meddwl mewngymorth i ysgolion, er mwyn cryfhau’r cymorth y mae CAMHS yn ei ddarparu mewn ysgolion, a hynny mewn pedwar ardal beilot ar draws Cymru.

‘Blaenoriaeth hollbwysig’

“Mae iechyd meddwl a llesiant ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth hollbwysig, ac mae ein dull o weithredu ar lefel yr ysgol gyfan yn sicrhau bod y flaenoriaeth hon yn ganolog i sut mae ysgolion yn gweithio, ac yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd yn yr ysgol,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Bydd y cyllid hwn yn gyfle i adeiladu ar y cymorth proffesiynol dynodedig yr ydyn ni’n ei ddarparu i ysgolion, gan gynnwys drwy ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu cefnogi’n llawn drwy bob cam o’u haddysg.”