Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb arwain at ddymchwel economi wledig ac arfordirol Cymru, yn ôl Lesley Griffiths,

Daw’r rhybudd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar drothwy cyfarfod gweinidogion y gwledydd datganoledig â gweinidogion San Steffan.

Mae Aelodau Seneddol yn paratoi i bleidleisio ar gytundeb Brexit Theresa May yfory (dydd Mawrth, Ionawr 15), ac mae Lesley Griffiths yn mynnu bod rhaid osgoi sefyllfa dim cytundeb er mwyn gwarchod cymunedau gwledig ac arfordirol.

Ar hyn o bryd, mae 90% o allforion cig coch a bwyd môr Cymru’n mynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, a byddai tariff ychwanegol ar y cynnyrch yn ychwanegu at gostau allforio, meddai.

Yn ogystal, byddai angen tystysgrif iechyd ar gyfer allforion cyn i allforion allu cael mynediad trwy byrth archwilio ar y ffiniau – rhywbeth nad yw ar gael yn Calais, gan ychwanegu ymhellach at gostau allforio a gwaith papur.

Ar hyn o bryd, mae bwyd y môr yn mynd o’r rhwyd i’r farchnad o fewn 24 awr. Byddai unrhyw oedi yn y gadwyn gyflenwi’n gostwng safon y cynnyrch ac at brisiau llai.

Mewn amgylchiadau eithriadol, meddai Lesley Griffiths, gallai’r diwydiant ddymchwel yn gyfan gwbl.

‘Dim bargen… y sefyllfa waethaf un i Gymru’

“Rydym wedi ei gwneud yn glir o’r dechrau nad yw Brexit heb fargen yn opsiwn i ddiwydiannau ffermio a physgota Cymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Gallai ymadael fel hyn allan o’r Undeb Ewropeaidd ddymchwel ein heconomïau gwledig ac arfordirol ac mae’n rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif.

“Byddai sefyllfa dim bargen yn wael i ffermwyr Cymru gan fod 90% o’n hallforion cig coch yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd. Byddai tariffau uchel, rhagor o fiwrocratiaeth ac oedi ar y ffin ond yn ychwanegu at gostau allforio.

“Ond mae dim bargen yn ogystal â chael gwared ar dariffau mewnforio y DU y sefyllfa waethaf un i amaethyddiaeth yng Nghymru a Phrydain, gan ganiatáu mewnforio bwydydd rhad yn ystod cyfnod pan y gallai ein hallforion olygu tariffau o hyd at 50% ar gyfer rhai sectorau.

“Dyma fydd yr achos hefyd yn ein diwydiant pysgod cregyn, sydd yr un mor ddibynnol ar allforio i’r Undeb Ewropeaidd.  Gallai unrhyw oedi mewn porthladdoedd sy’n atal cynnyrch byw rhag cael eu cyflenwi o fewn 24 awr ddymchwel y diwydiant.”

Gwaethygu’r anawsterau

“Mae ein cwmnïau bwyd eisoes yn cael anhawster i recriwtio o’r UE oherwydd y gostyngiad cychwynnol yng ngwerth y bunt,” meddai wedyn.

“Byddai gostyngiad pellach yn gwaethygu’r anawsterau hyn.

“Nid wyf am ymddiheuro am amlinellu’r canlyniadau tebygol iawn i sefyllfa o ddim bargen.

“Ni allwn ddiystyru nac anwybyddu’r effaith gwirioneddol erchyll a gaiff gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar ein diwydiannau.

“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r diwydiant i baratoi ar gyfer Brexit a’r heriau a ddaw.

“Trwy ein Cronfa Bontio Ewropeaidd, rydym wedi darparu £6 miliwn eisoes i helpu ein diwydiannau ffermio, pysgota a bwyd i sicrhau eu bod yn gystadleuol o fewn diwydiannau sy’n newid i’w galluogi i oroesi mewn byd wedi Brexit