Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o roi carafan ar dân yn fwriadol yn ardal Doc Penfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pennar yn oriau man fore heddiw.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.

Mae’r ddau sydd wedi’u harestio’n cael eu holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 2yb a 4yb.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.