Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 73 oed farw ar ôl i fan daro yn erbyn fan arall yng Nghwm Rhondda.

Roedd fan Ford Transit wedi taro yn erbyn fan Iveco Daily oedd wedi parcio ar ymyl Stryd Rhydychen toc ar ôl 8.30yb fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 13).

Bu farw gyrrwr y Transit er yr ymdrechion i’w achub, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.