Mae dyn 30 oed o Gaerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad yn Ystrad Mynach nos Wener (Ionawr 11).

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 8.30yh yn dilyn y digwyddiad ar y ffordd sy’n arwain i ffwrdd o Tesco tuag at bentref Pengam.

Roedd Seat Leon du mewn gwrthdrawiad â fan Volkswagen Crafter lliw arian.

Bu farw dyn 43 oed o ardal Fleur-de-Lis yn y fan a’r lle, a chafodd gyrrwr y Seat a dau deithiwr eu cludo i’r ysbyty â man anafiadau.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.