Mae trigolion pentref Cwm Gwaun yn Sir Benfro ymhlith y Cymry sy’n dathlu’r Hen Galan heddiw.

Mae’r traddodiad yn ddathliad o’r hen galendr a gafodd ei ddisodli yn 1752, lle’r oedd y flwyddyn newydd yn dechrau ar Ionawr 13.

Fe fydd y dathliadau’n cynnwys plant yn canu Calennig ac yn cael rhoddion gan eu cymdogion am eu hymdrechion.

Maen nhw fel arfer yn cael y diwrnod i ffwrdd o’r ysgol pan fo’r diwrnod yn cwympo yn ystod yr wythnos.

Mae amryw ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws yr ardal a ledled Cymru heddiw.

Ymdriniaeth y wasg

Ond nid pawb sydd fel pe baen nhw’n deall y traddodiad.

Mae erthygl ar wefan Saesneg BBC Cymru’n pwysleisio nad yw trigolion Cwm Gwaun yn dathlu’r ‘Flwyddyn Newydd’ ar y dyddiad anghywir.

“Mae pentrefwyr yng ngorllewin Cymru’n dymuno blwyddyn newydd dda i’w gilydd – er ein bod bythefnos i mewn i 2019,” meddai’r erthygl.

“Ond dydi pobol yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, ddim wedi cymysgu eu dyddiadau, byddan nhw’n dathlu’r Hen Galan neu ‘yr hen flwyddyn newydd’.”

Blas ar y dathliadau ledled Cymru